Dim bom yng Nghasnewydd

Dywed arbenigwyr o'r uned ddifa bomiau nad bom oedd y ddyfais y cafwyd hyd iddo yng Nghasnewydd.
Yn wreiddiol y gred oed mai bom o'r Ail Ryfel Byd gafodd ei ddarganfod ar safle adeiladu yn y ddinasl
Bu'n rhaid i bobl adael busnesau, cartrefi, siopau ac ysgol gyferbyn a'r safle adeiladu.
Yn ogystal bu nifer o ffyrdd ynghau o gwmpas parc siopa Maes Glas, gan achosi tagfeydd yn yr ardal.
Fe gafodd yr heddlu eu galw yno am 12.45 dydd Llun.