Ymosod ar heddlu: Arestio un arall
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod wedi arestio person arall fel rhan o'r ymchwiliad i ddigwyddiad ym Mrynmawr lle cafodd tri o blismyn eu hanafu.
Cafodd yr heddlu eu galw i Sgwâr y Farchnad yn y dref am tua 1:00am fore Llun, wedi adroddiadau o ladrad yn yr ardal.
Wrth iddyn nhw ymchwilio, ymyrrodd mwy o bobl, gan achosi i'r digwyddiad droi'n "anhrefn".
Cafodd y swyddogion - dwy ddynes ac un dyn - driniaeth yn ysbyty Nevill Hall, ond maen nhw wedi gadael yr ysbyty erbyn hyn.
Mae pedwar o bobl, dau ddyn, 28 a 23 oed, a dwy ddynes, 23 a 26 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod a chreu anhrefn treisgar.
Maen nhw'n parhau i fod yn y ddalfa.
Cafodd un dyn ei arestio ar amheuaeth o geisio lladrata, ond mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod 23 16/06/14.
Straeon perthnasol
- 16 Mehefin 2014