Galw ar reolwyr Glyndŵr i ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Glyndwr

Mae undeb wedi galw ar Is-ganghellor a Chadeirydd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr i ymddiswyddo.

Yn ôl yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU), mae'r ddau wedi colli pob hygrededd wedi i fanylion newydd am sefyllfa ariannol y brifysgol ddod i'r fei.

Dywed y brifysgol eu bod yn cefnogi eu rheolwyr a bod nifer o ffeithiau yr undeb yn anghywir.

Mae'r undeb yn gwneud nifer o honiadau gan gynnwys:

  • Bod yr is-ganghellor wedi derbyn cynnydd tâl o 8% rhwng 2012 a 2013 er gwaetha'r ffaith bod y brifysgol mewn sefyllfa lle'r oedd y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Hefcw) yn gorfod monitro'r cynllun adfer. Cafodd staff gynnydd llai na chwyddiant o 1% yn yr un flwyddyn.
  • Bod cynllun diswyddo gwirfoddol wedi arwain at 77 aelod o staff yn gadael rhwng Awst 2013 a Chwefror 2014. Cafodd 77 o staff newydd eu penodi yn ystod yr un cyfnod.
  • Roedd incwm y brifysgol hyd at Gorffennaf 31 yn £4.5 miliwn yn llai na'r flwyddyn flaenorol.

Yn ogystal, does gan yr undeb ddim ffydd yng nghynlluniau Prifysgol Glyndŵr i wella'r sefyllfa.

Llythyr at y gweinidog

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae'r brifysgol yn credu ei bod yn amhriodol i drafod materion trefniadaeth mewnol mewn fforwm gyhoeddus.

"Byddwn yn parhau i ddilyn y polisi hwn, heblaw pan fydd angen cywiro ffeithiau anghywir sydd yn niweidiol.

"Mae yn anghywir i ddweud fod yrIs-ganghellor wedi derbyn cynnydd tâl o 8% rhwng 2012 a 2013. "Mae cyfrifon y brifysgol yn cadarnhau hyn.

"Mae'r undeb hefyd wedi honni mai dim ond £145,000 fydd y swm dros ben ar gyfer 2014/15. Mae hynny'n ddarlun anghywir gan fod gan y grŵp £463,000 o arian wrth gefn.

Ffigwr sydd hefyd wedi ei gofnodi.

"Mae'r brifysgol yn hyderus fod yr Is-ganghellor a Bwrdd y Llywodraethwyr yn cynrychioli'r adnodd gorau er mwyn mynd i'r afael a her y dyfodol."

Manylion

Mae'r undeb wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Addysg Huw Lewis gyda'r holl fanylion o'r hyn maen nhw'n honni eu bod wedi ei ddarganfod.

Dywedodd eu swyddog rhanbarthol, Margaret Phelan: "Ar ôl darganfod mwy o fanylion ynglŷn â'u sefyllfa ariannol, nid oes gennym ni ffydd y bydd rheolwyr presennol y tîm rheoli yn gallu sicrhau sefyllfa fwy cadarn i'r brifysgol ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd: "Mae Prifysgol Glyndŵr wedi suddo'n bellach ac yn bellach fewn i dwll du ariannol a dyw'r cynllun adfer yn ddim byd mwy na chynllun byrhoedlog, byrbwyll fyddai'n arwain at golli nifer o staff profiadol.

"Rydym wedi galw ar y gweinidog addysg i newid y rheolau ar sut mae prifysgolion yn cael eu rhedeg er mwyn sicrhau craffu gwell o'r penderfyniadau sy'n cael eu cymryd ar y lefel uchaf.

"Mae'r angen dros wneud hyn yn fawr er mwyn atal sefydliadau eraill yng Nghymru rhag mynd lawr yr un ffordd a Glyndŵr."