Damwain ddifrifol ar yr A44 ger Aberystwyth
- Published
Mae'r A44 wedi cael ei chau rhwng Llangurig a Phonterwyd oherwydd damwain ddifrifol, yn ôl yr heddlu.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw toc wedi 15:00 a chafodd dwy injan dân eu hanfon. Wedyn cyrhaeddodd ambiwlansys ac ambiwlansys awyr.
Roedd gwrthdrawiad rhwng car, fan a thancer tanwydd.
Mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau am gyfnod, o bosib trwy'r nos. Ar hyn o bryd does dim manylion am unrhyw anafiadau.
Dywedodd Eluned Thomas o fferm Eisteddfa Gurig tua dwy filltir o'r ddamwain: "Daeth menyw yma i ofyn a allai hi ddefnyddio'r ffôn.
"Dywedodd hi fod tancer yn dod lan o Langurig a bod car wedi ei daro'n syth.
"Roedd gyrrwr y tancer yn dweud nad oedd yn gallu osgoi'r car. Dwi'n meddwl walle fod cerbyd arall yn rhan o'r ddamwain."