'Canolfannau' newydd i geisio cael mwy o Gymry i Oxbridge
- Cyhoeddwyd

Dylai rhwydwaith o 12 o 'ganolfannau' gael eu sefydlu yng Nghymru er mwyn helpu mwy o ddisgyblion fynychu prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Dyna yw prif argymhelliad adroddiad gan gyn ysgrifennydd Cymru Paul Murphy.
Cafodd Mr Murphy ei benodi yn Llysgennad Oxbridge gan Lywodraeth Cymru mewn ymdrech i ddarganfod pam fod cyn lleied o ddisgyblion o Gymru yn astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt.
Mae myfyrwyr o Gymru yn llai tebygol o sicrhau lle yn y ddwy brifysgol na myfyrwyr o Loegr neu Ogledd Iwerddon.
Bu Mr Murphy yn edrych ar ystadegau am y cyfnod rhwng 2008-2012.
Daeth i'r casgliad:
- fod 22.6% o fyfyrwyr o Gymru yn llwyddiannus wrth wneud cais i Gaergrawnt, o'i gymharu â 27% yng ngweddill y DU.
- yn Rhydychen fe wnaeth 17.3% o geisiadau o Gymru lwyddo, o'i gymharu â 23.6% ar gyfer y DU.
Yn ôl yr adroddiad: "Mae'n ymddangos yn hynod debygol fod y perfformiad cymharol isel yn yr asesiadau ar ôl arholiadau TGAU yn ffactor yn y nifer cymharol isel o geisiadau i Rydychen a Chaergrawnt o Gymru. Mae'r prifysgolion yn ystyried yr asesiadau uchod yn hynod bwysig."
Mae adroddiad Mr Murphy hefyd yn dweud fod canlyniadau cymharol isel mewn arholiadau hefyd yn ffactor.
- Rhwng 2008-12, fe wnaeth cyfartaledd o 9.2% o fyfyrwyr lefel A o Gymru lwyddo i gael tair gradd A neu well, o'i gymharu â chyfartaledd o 12.7% yn y DU.
- Yn yr un cyfnod, fe wnaeth cyfartaledd o 3.8% o fyfyrwyr Cymru lwyddo i gael pum gradd A* neu well yn TGAU, o'i gymharu â 4.3% yn y Du.
- Tra bod perfformiad y disgyblion TGAU mwyaf disglair yng Nghymru wedi codi rhwng 2008 a 2012, bu gostyngiad ym mherfformiad y disgyblion lefel A mwyaf disglair.
Ond ychwanegodd Mr Murphy, wnaeth astudio hanes yng Ngholeg Oriel, Rhydychen, nad canlyniadau arholiadau oedd yr unig ffactor.
Dywedodd fod rhai o fyfyrwyr cryfaf Cymru yn gwneud ceisiadau i'r ddwy brifysgol, ond eu bod yn aflwyddiannus o ran y broses derbyn.
Dywed yr adroddiad y byddai 12 canolfan yn helpu'r disgyblion mwyaf disglair i baratoi ar gyfer arholiadau mynediad y prifysgolion, ynghyd a ffactorau eraill.
"Mae nifer o ddisgyblion wedi elwa oherwydd athro brwdfrydig, neu ddosbarthiadau y tu allan i'r amserlen arferol, ysgol haf neu aelod galluog o'r teulu," meddai.
Amserlen
"Mae hynny o fudd i'r unigolyn, ond dyw hynny ddim yn golygu cysondeb o ran darpariaeth drwy'r gyfundrefn addysg."
Fe wnaeth Mr Murphy hefyd godi cwestiwn ynglŷn â'r fagloriaeth Gymreig, gan ddweud o bosib ei fod yn dal rhai o'r disgyblion mwyaf talentog yn ôl.
Dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd maes llafur newydd y flwyddyn nesa yn rhoi amserlen gyda mwy o amser i gefnogi'r disgyblion mwyaf disglair.
Fe wnaeth Mr Murphy hefyd awgrymu y dylai Caergrawnt a Rhydychen ddarparu deunydd Cymraeg ar gyfer pecynnau cyflwyno i ddisgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Straeon perthnasol
- 9 Chwefror 2014
- 28 Ebrill 2014
- 13 Rhagfyr 2013