Amlosgfa: cwmni i apelio

  • Cyhoeddwyd
Delwedd artist
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y datblygwyr wedi dweud y byddai'r amlosgfa yn gweddu'r ardal, ond cafodd y cais ei wrthod

Bydd cynghorwyr sir Ddinbych yn cyfarfod bore Mercher i glywed fod cwmni yn bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio i godi amlosgfa yn Llanelwy.

Ym mis Mawrth fe wnaeth aelodau pwyllgor cynllunio y sir wrthod cais cwmni Memoria a hynny yn groes i gyngor swyddogion cynllunio.

Mae'r cwmni o Chichester yn honni bod amseroedd aros yn amlosgfeydd Bae Colwyn a Wrecsam yn amlygu'r angen am amlosgfa arall yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Ond roedd gwrthwynebiad cryf i'r cynllun ar barc busnes Llanelwy, ger Glascoed, gan bobl leol.

Daeth tua 30 o brotestwyr, oedd yn gwrthwynebu'r datblygiad, i'r cyfarfod cynllunio ym mis Mawrth

Pan wnaed y penderfyniad i wrthod y cais dywedodd aelodau'r pwyllgor nad oedd y cynllun yn cyd-fynd a'r cynllun datblygu lleol. Roedd pryder hefyd y byddai tir amaethyddol da yn diflannu ac roedd yna gwynion hefyd am broblemau traffig posib.