Marwolaeth claf: arestio dau
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ddynes 88 oed ei darganfod gydag anafiadau difrifol yn Ysbyty Cwm Cynon
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod dau wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth claf 88 oed.
Bu farw Tegwen Roderick o Abercannaid ger Merthyr Tudful yn Ysbyty Tywysog Charles ar Fehefin 4.
Cyn hynny roedd yn triniaeth yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar.
Cafodd dyn 64 oed ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd dynes 52 oed ei harestio ddydd Gwener ar amheuaeth o ymosod ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Yn wreiddiol, cafodd 10 aelod o staff Ysbyty Cwm Cynon eu gwahardd o'u gwaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014