Morgannwg yn rheoli
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Jim Allenby sgorio cant o rediadau i roi Morgannwg mewn sefyllfa gref yn erbyn Caint yn y bencampwriaeth yng Nghaerdydd.
Wrth i Forgannwg ailgydio yn y batio ar y trydydd diwrnod ar 337-4, fe lwyddodd Allenby (100) a Chris Cooke (96) i gyfrannu partneriaeth o 204.
Fe wnaeth Graham Wagg ychwanegu 66 o rediadau gyda Morgannwg i gyd allan am 572.
Cwympodd wiced Daniel Bell-Drummond yn y bel gyntaf i gael ei bowlio yn ail fatiad Caint ac ar un adeg roedd yr ymwelwyr ar 61-4.
Gwellodd pethau ychydig gyda Darren Stevens yn cyfrannu 55 ac ar ddiwedd y trydydd diwrnod roedd Caint ar 137-5.
g.
Morgannwg v Caint, Pencampwriaeth y Siroedd, Stadiwm Swalec Caerdydd:
Caint (batiad cyntaf) - 253
Morgannwg (batiad cyntaf) -527
Morgannwg 8 pwynt Caint 3 pwynt
Straeon perthnasol
- 16 Mehefin 2014