Ymgyrch yr heddlu yn erbyn trais yn y cartref

  • Cyhoeddwyd
Charmaine Lewis
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd asenau Charmaine Lewis eu torri yn yr ymosodiad yn 2011.

Mae yna her i ffrindiau, perthnasau a chymdogion i fod yn fwy gwyliadwrus ac i 'agor eu llygaid' fel rhan o ymgyrch i fynd i'r afael â thrais yn y cartref .

Daw ymgyrch Heddlu'r De wythnos ar ôl iddyn nhw gael eu beirniadu mewn achos lle wnaeth partner dynes ymosod arni gyda mwrthwl.

Digwyddodd yr ymosodiad ychydig wedi i'r heddlu adael cartref Charmaine Lewis yng Nghaerdydd.

Dywedodd dirprwy comisiynydd yr heddlu Sophie Howe: "Heb os roedd yna fethiannau yn achos y ddynes yma, ac rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud yn iawn am hyn. "

Roedd Ms Lewis eisoes wedi cwyno wrth yr heddlu ar ôl i'w phartner Christopher Veal ymosod arni mewn digwyddiad blaenorol.

Risg difrifol

Ond oherwydd iddynt gam sillafu ei enw fe fethodd Heddlu'r De a sylweddoli fod Veal yn ddyn oedd eisoes wedi ei gael yn euog o dreisio.

Yr wythnos diwethaf dywedodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu fod y llu wedi methu Ms Lewis ar sawl achlysur, gan roi ei phlant mewn risg difrifol.

Dywedodd y Comisiwn wrth Heddlu'r De bod yn rhaid iddynt wneud "newidiadau sylweddol".

Nawr mae Heddlu'r De yn lansio cynllun fydd yn cynnwys swyddogion iechyd, asiantaethau gwirfoddol yn ogystal â ffrindiau, cymdogion a pherthnasau wrth geisio cofnodi unrhyw arwyddion o drais yn y cartref.

Credir bod yna tua 5,000 o ddioddefwyr yn y de.

Dywedodd Ms Howe, sy wedi cynnal arolwg o bolisïau yn ymwneud a thrais yn y cartref dros gyfnod o 12 mis, fod dioddefwyr ar gyfartaledd yn dioddef 35 o weithiau cyn mynd i'r heddlu.

"Mae ffrindiau, perthnasau a chymdogion yn allweddol," meddai.

"Maen nhw yn fwy tebygol o fod yn amheus o rywbeth. Nid ydym yn gofyn iddynt ffonio'r heddlu heb reswm, ond i gadw eu llygaid ar agor.

"Ond pe bai rhywbeth yn digwydd yn gyson a bod yna deimlad fod rhywbeth drwg yn digwydd yna cysylltwch â'r heddlu.

"Rydym wedi cymryd camau pendant ers achos Charmaine Lewis. Heb os fe fu methiannau yn achos y ddynes yma ac rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn gwneud yn iawn am hynny."

TRAIS YN Y CARTREF

  • Fe wnaeth Heddlu'r De ymdrin â 27,537 o alwadau yn ymwneud a thrais yn y cartref yn 2012/13
  • Roedd yna 6,588 o droseddau trais yn y cartref
  • Roedd yna 5,091 o ddioddefwyr trais yn y cartref
  • O'r rhain credir bod 2,242 mewn categori risg uchel - o niwed difrifol neu hyd yn oed llofruddiaeth.

Ffynhonnell: Heddlu De Cymru/SwyddfaGartref #openoureyes

Dywedodd prif gwnstabl Heddlu'r De Peter Vaughan: "Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o drais yn y cartref sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu, sy'n dangos fod gan ddioddefwyr mwy o hyder yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol a'n partneriaid.

"Rwyf am i bob dioddefwr fod yn gallu adrodd i'r heddlu am unrhyw ymosodiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol