RSPCA wedi achub 120% yn fwy o anifeiliaid yn 2013

  • Cyhoeddwyd
CiFfynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y ci yma yn un o 297 achos yng Nghymru

Mae adroddiad blynyddol yr RSPCA wedi dangos bod yr elusen wedi achub neu gasglu 123% yn fwy o anifeiliaid yn 2013 o'i gymharu â 2012.

Yn ôl yr elusen, cafodd 19,709 o anifeiliaid eu casglu neu eu hachub yn 2013, o'i gymharu â 8,847 yn 2012.

Dywed yr elusen hefyd eu bod yn llwyddiannus ym mhob un o'r achosion llys gafodd eu dwyn yng Nghymru.

97.8% oedd y ganran y flwyddyn gynt.

Mae ffigyrau'r RSPCA ar gyfer 2013 yn dangos:

  • Cynnydd o 14% yn nifer yr achosion gafodd eu hadrodd - 199;
  • Cynnydd o 10% yn nifer y bobl gafodd eu riportio - 318;
  • Cynnydd o 20% yn nifer y dyfarniadau euog ar draws Gymru - 297;
  • Cynnydd o 50% yn nifer y bobl gafodd rhybudd - 91.
Ffynhonnell y llun, RSPCA
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y ceffylau yma yn cael eu cadw mewn amodau gwael

Cafodd un dyn o ogledd Cymru ei garcharu am 10 wythnos am droseddau yn erbyn dros 100 o geffylau a merlod.

Roedd rhaid difa naw o'r anifeiliaid ar y fferm ym Mhwllheli, ac o'r 59 o ferlod gafodd eu darganfod yno, dim ond pump oedd a charnau mewn cyflwr da.

Roedd sawl yn cael trafferth symud a cherdded oherwydd cyflwr eu carnau.

Cafodd 50 o'r anifeiliaid eu symud o'r fferm, ac fe gyhuddwyd y perchennog o achosi dioddefaint iddynt.

Dywedodd Steve Carter o RSPCA Cymru bod yr achosion llys llwyddiannus yn dangos pa mor "gadarn" yw ymchwiliadau'r elusen.

"I ni, mae atal creulondeb i anifeiliaid yn allweddol a dyna pam mae'n rhaid i ni weithio gyda phobl pan mae'n bosib i'w haddysgu nhw a'u helpu i wella bywydau anifeiliaid - rhywbeth sy'n cael ei adlewyrchu yn y cynnydd o 50% yn nifer y troseddwyr gafodd rybudd.

"Ond, lle mae tystiolaeth o drosedd a chamdrin anifeiliaid yna byddwn yn dechrau achos cyfreithiol i amddiffyn anifeiliaid ac atal camdrin pellach.

"Rydyn ni hefyd am weld y llysoedd yn cymryd safbwynt mwy difrifol yn erbyn y troseddau yma."

Ychwanegodd: "Mae ein staff, gwirfoddolwyr a chanolfannau yn dangos ymrwymiad arbennig ond maen nhw'n ei chael hi'n anodd dal i fyny.

"Nawr yn fwy nac erioed rydyn ni angen i bobl sefyll i fyny yn erbyn creulondeb anifeiliaid."