Ymchwilio i elusen lleifafrifoedd ethnig
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i elusen sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe.
Mewn llythyr i Aelodau Cynulliad, dywedodd y Gweinidog dros Gymunedau a Taclo Tlodi, Jeff Cuthbert, bod cyllid i'r Minority Ethnic Women's Network (MEWN) wedi ei atal tra bod ymchwiliad.
Mae MEWN wedi derbyn bron i £500,000 mewn cyllid Ewropeaidd a gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd yr elusen ei ddirwyn i ben erbyn hyn.
Yn y llythyr, dywedodd Mr Cuthbert nad oes tystiolaeth bod unrhyw arian gan y llywodraeth neu gyllid Ewropeaidd wedi ei ddefnyddio yn amhriodol.
Mae MEWN yn elusen sydd wedi gweithio yn agos gydag elusen YMCA i wella cyfleoedd swyddi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn cymryd camau i ddiogelu arian cyhoeddus a rheiny sydd wedi cael budd o'r elusen.