Goleuadau i ddangos pryd i groesi'r môr i Ynys Sili

  • Cyhoeddwyd
Ynys Sili
Disgrifiad o’r llun,
Ynys Sili, lle mae'r RNLI yn arbrofi gyda system goleuadau traffig i ddweud wrth ymwelwyr pryd mae'n diogel croesi'r sarn yno.

Bydd system goleuadau traffig yn cael ei ddefnyddio fel arbrawf diogelwch môr, er mwyn ceisio dangos i ymwelwyr pryd mae'n ddiogel i groesi'r sarn, i Ynys Sili ger Penarth.

Mae'r arbrawf yn cael ei gynnal yno oherwydd bod gwirfoddolwyr bad achub yr RNLI o Benarth yn cael eu galw yn rheolaidd i gynorthwyo pobl sy'n cael eu hynysu gan y llanw.

Esboniodd Nicola Davies o'r RNLI: "Ond am dair awr bob ochr i'r llanw isel mae'n bosib cerdded dros y sarn creigiog sy'n cysylltu Ynys Sili i'r tir mawr. Mae hyn yn golygu bod cannoedd o ymwelwyr wedi eu dal yno dros y blynyddoedd.

"Er ein bod yn barod i lansio pan fydd pobl angen cymorth, rydym yn awyddus i ddysgu'r cyhoedd fel eu bod yn ymwybodol o'r peryglon.

"Ynys Sili yw'r lle perffaith iddo gael ei brofi gan ein bod yn gweld digwyddiadau yma yn rheolaidd yno.

"O amgylch yr ynys, mae'r llanw yn symud yn gyflym iawn. Felly, rydym yn annog pobl sy'n ymweld â'r ynys i wirio'r amseroedd y llanw cyn iddynt gychwyn, a thrwy edrych ar yr arwydd, nid oes rhaid i ymwelwyr ddyfalu faint o amser sydd ganddynt gan wybod yn union bryd mae'n ddiogel i groesi.

"Byddwn yn monitro effaith yr arwydd trwy gydol y tymor."

Nos Lun bu raid i fad achub Penarth ymateb i alwad gan ddyn oedd wedi mynd i Sili i ddringo creigiau. Fe aeth i drafferthion ar ôl iddo gael ei ynysu yno gan y llanw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol