Damwain yr A44: Enwi pedwar fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r pedwar person gafodd eu lladd mewn damwain ffordd ar yr A44 rhwng Llangurig a Phonterwyd ddydd Mawrth wedi cael eu henwi.
Roedd John a Margaret Kehoe yn briod ac yn 72 a 65 oed.
Roedd Martin Pugh yn 47 oed, ac yn bartner i ferch John a Margraet, sef Lynne.
Roedd Alison Hind yn 28 oed, ac yn nith i Martyn Pugh.
Yn ôl yr heddlu roedd y pedwar yn hanu o ardal Llanidloes.
Mae babi 18 mis oed, Holly, wedi ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn cyflwr difrifol, gydag anafiadau difrifol i'w phen.
3.01pm
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod criwiau o Aberystwyth a Llanidloes wedi eu hanfon i'r ddamwain ar ôl derbyn galwad am 3.01pm.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 15 milltir o Aberystwyth, ger Eisteddfa Gurig, rhwng Llangurig (Powys) a Phonterwyd yng Ngheredigion.
Mewn ymateb dywedodd Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, bod angen buddsoddi er mwyn gwella diogelwch yr A44.
Yn siarad ar BBC Radio Cymru dywedodd: "Dyw'r ffordd yma heb dderbyn gwelliannau ac mae angen edrych ar y ffordd yn ei chyfanrwydd."
"Mae tristwch enfawr pan mae colli bywyd yn dilyn damwain fel yma. Mae pawb yn meddwl hefyd am y ferch fach sydd yn ymladd am ei bywyd yn yr ysbyty."
Dywedodd Craig Duggan, gohebydd BBC Cymru yn y Canolbarth:
"Mae'r ffordd yn cael ei chydnabod fel un o ffyrdd perycla' Cymru. Mae'n fynyddig a throellog ac mae'n ffordd prysur iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2014