Cannoedd yn protestio yn erbyn israddio Ysbyty Llwynhelyg

  • Cyhoeddwyd
Protest Llwyn helyg
Disgrifiad o’r llun,
Protest o flaen Y Senedd yn erbyn cau uned fabanod Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae tua 300 o bobl wedi ymgynnull tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd i brotestio yn erbyn cau uned fabanod Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfordd.

Hon yw'r ddiweddaraf o gyfres o brotestiadau yn erbyn cynlluniau i ganoli gofal i fabanod yn Ysbyty Glangwili yn Sir Gâr.

O flaen y Senedd mae Dr Chris Overton, cadeirydd SWAT (Save Withybush Action Team), wedi diolch i'r protestwyr am deithio a dangos eu bod yn anhapus gyda'r cynllun.

Galwyd y brotest cyn cyhoeddi canlyniad adolygiad barnwrol o'r newidiadau ar 24 Mehefin.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dweud bod angen y newidiadau er mwyn sicrhau bod gofal o safon uchel yn cael ei ddarparu.

Bwriad y Bwrdd Iechyd yw cau'r uned ym mis Awst.