Apêl wedi ymosodiad ar bensiynwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar bensiynwr 73 oed yng Nghastell-nedd.
Roedd rhaid i'r dyn gael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i'w wyneb a'i freichiau yn dilyn yr ymosodiad ar Ffordd Dyfed, ger y cyrtiau tennis am 3yb ar 18 Mehefin.
Dywedodd yr Arolygydd Huw Griffiths: "Roedd hyn yn ddigwyddiad wnaeth achosi poendod mawr i'r dioddefwr.
"Rwy'n apelio i unrhyw un a welodd ddau ddyn yn actio mewn ffordd amheus yn oriau mân y bore ddydd Mercher i gysylltu â ni...
"Mae ymosodiadau fel hyn yn anghyffredin ac rydym wedi cynyddu patrolau yn yr ardal."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.