Cau ysgolion Trefilan, Llanddewi Brefi, Llanafan a Thregaron

  • Cyhoeddwyd
disgybl ysgolFfynhonnell y llun, PA

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi pleidleisio o blaid cau Ysgol Trefilan a chadw Ysgol Dihewyd ar agor.

Hefyd, penderfynwyd y bydd ysgolion cynradd Llanddewi Brefi a Thregaron yn cau, a bydd ysgol newydd ar gyfer plant 3-16 oed yn agor ar safle Ysgol Uwchradd Tregaron.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor yn y cyfarfod fod 6ed dosbarth Tregaron yn "anghynaladwy", gyda rhai pynciau â dim ond un disgybl.

Yn ogystal, bydd Ysgol Llanafan yn cau - mae ganddi 15 o ddisgyblion wedi cofrestru ar gyfer mis Medi.

Yn ôl gohebydd BBC Cymru yn y cyfarfod, Sara Gibson, fe wnaeth rhieni a chefnogwyr Ysgol Llanafan heclo'r cynghorydd a'r portffolio addysg Hag Harris o'r galeri cyhoeddus, a bu'n rhaid i'r cadeirydd eu tawelu.

Roedd y rhieni wedi dweud eu bod nhw'n ffyddiog y byddai creu dros 200 o swyddi mewn ffatri gig ger yr ysgol yn gymorth i gynnal nifer y disgyblion yno.

Bwriad Cyngor Ceredigion yw cau ysgolion cynradd a chanddynt lai na 20 o ddisgyblion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol