Tân Caerfyrddin: Mam mewn cyflwr difrifol

Bryn Gorwel
Image caption Digwyddodd y tân ar stryd Bryn Gorwel yng Nghaerfyrddin

Mae Alice Smith, 24 oed, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol ar ôl tân yn ei chartref yng Nghaerfyrddin lle bu farw ei merch.

Bu farw Angel Jade Smith, tair oed, union flwyddyn ar ôl i'w brawd bach, Jake, gael ei ddarganfod yn farw yn ei grud pan oedd yn chwe mis oed.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i achos y tân ddechreuodd nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fryn Gorwel am 18:15 ddydd Sul, a llwyddodd criwiau tân i reoli'r fflamau erbyn tua 22:00 nos Sul.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod swyddogion arbenigol yn cynnig cefnogaeth i'r teulu.

Image copyright Google
Image caption Bryn Gorwel yng Nghaerfyrddin

Straeon perthnasol