Rhybudd am wasanaethau: Dim arian mewn degawd
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr llywodraeth leol Cymru'n cyfarfod ddydd Iau gan rybuddio na fydd arian ar gael ar gyfer nifer fawr o wasanaethau erbyn 2025.
Fe fydd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn Llandudno yn cael ei annerch gan y Gweinidog dros lywodraeth leol Lesley Griffiths.
Mae llywodraeth Cymru'n awyddus i fwrw ymlaen ag ad-drefnu llywodraeth leol, gan ddadlau fod 22 awdurdod lleol yn ormod er mwyn darparu gwasanaethau'n llwyddiannus.
Mae disgwyl i'r Blaid Lafur gyflwyno'u cynlluniau manwl o fewn yr wythnosau nesaf.
Effaith yr argyfwng
Ond mae'r cynghorau poeni eisoes am effaith yr argyfwng ariannol. Mae'r Gymdeithas yn darogan y bydd yn rhaid dod o hyn i £500m o doriadau ychwanegol dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Chris Llewelyn o'r WLGA: "Os yw'r galw am wasanaethau lleol yn parhau i dyfu ar y lefel bresennol, a'r cynlluniau gwariant yn parhau ar yr un lefel, wedyn erbyn 2025 fydd yr arian ddim yn bodoli i ddarparu'r gwasanaethau dewisol mae awdurdodau lleol yn eu cyflenwi.
"Fydd rhaid felly canolbwyntio ar wasanaethau craidd fel addysg a gofal cymdeithasol.
"Y gwir amdani yw nad yw hi'n bosibl cynnal y lefel bresennol o wasanaeth yn y dyfodol."
Ddydd Sadwrn fe fydd pwyllgor o'r Blaid Lafur Cymreig yn cyfarfod i drafod eu hymateb i Gomisiwn Williams, wnaeth argymell newidiadau radical i ffiniau llywodraeth leol.
Ond deellir nad yw'r blaid eto'n barod i gytuno ar fap terfynol ar gyfer y cynghorau newydd.
Arbed arian
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth BBC Cymru y byddai torri'r nifer o gynghorau yn arbed arian yn y tymor hir.
"Ar hyn o bryd, mae 'na 22 system HR, 22 system technoleg, 22 system o gasglu gwastraff - dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr. Mae 'na gyfle fan hyn i dorri lawr ar gostau."
Mae cyllideb Ceredigion wedi ei thorri eisoes o 4.6%, sy'n golygu toriad o £10m yn 2014-15. Dywedodd yr arweinydd Ellen ap Gwynn y byddai ad-drefnu yn gostus ac yn wrthgynhyrchiol.
"Fydd uno ddim o reidrwydd yn arbed arian," meddai.
"Mae angen cadw'n ffocws ar wasanaethau, ac fe fyddai tynnu'n sylw i ffwrdd er mwyn diswyddo staff, ail-apwyntio staff eraill ac ail-drefnu yn wastraffus."