Dadlau dros dyrbin ger tŷ Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Cartref Dylan Thomas

Mae wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis wedi dweud bod y penderfyniad i gymeradwyo cynllun i godi tyrbin gwynt ger cartref y bardd yn Nhalarcharn yn "hollol abswrd".

Mae llygad y byd wedi bod ar Dalarchan eleni - y pentref oedd canolbwynt y dathliadau i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

Yn ddiweddar, mae dadlau wedi bod am gynllun i godi tyrbin 45 metr o uchder ar dir Ffarm Mwche yn Llanybri - sydd gyferbyn â'r tŷ.

Fe gafodd y trybin ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr ar Fehefin 3 - er i swyddogion cynllunio fynegi pryder am effaith y cynllun ar y tirwedd.

'Buddiannau personol'

Roedd cynghorydd ardal Llanybri a Llansteffan - Daff Davies - wedi ffafrio cais yr ymgeisydd ond wnaeth o ddim pleidleisio oherwydd buddiannau personol ac ariannol.

Mae o'n adnabod y teulu ers bron i 30 mlynedd, ac wedi gweithio iddyn nhw am 8 mlynedd, yn ôl cofnodion y cyfarfod fis Mehefin.

Mewn cyfweliad â Newyddion 9, fe ddywedodd Ms Ellis fod y penderfyniad wedi "tanseilio'r egni a'r ymdrech a wnaed i hybu Talacharn a'r cartref ledled y byd... o'm safbwynt personol i, fe wnes i wasgaru llwch mam ger y tŷ ac mae 'na fainc yno...

"'Dy ni'n mynd yno i eistedd ac mae'n amser heddychlon i fi... Mae dychmygu tyrbin gwynt yno yn achosi tristwch mawr."

Mae hi wedi ysgrifennu at lywodraeth Cymru i nodi ei phryderon am y penderfyniad. Yn ogystal, mae nifer o drigolion yr ardal wedi anfon llythyrau yn gofyn am ail-ystyried y penderfyniad.

Gwrthod cyngor

Ddydd Iau, bydd aelodau'r pwyllgor cynllunio'n cwrdd yn Neuadd y Sir i drafod y penderfyniad, a rhoi rheswm pam na wnaethon nhw dderbyn cyngor y swyddogion cynllunio.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â'r Cynghorydd Davies - sydd hefyd yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Gâr - ond dydy o heb ymateb.

Doedd y cyngor ddim am wneud sylw cyn cyfarfod y pwyllgor cynllunio.

Fe gadarnhaodd llywodraeth Cymru eu bod nhw "wedi derbyn llythyrau yn galw am ail-ystyried y caniatád cynllunio... Fe fydd y penderfyniad yn cael ei wneud cyn gynted â phosib."