Wylfa: Difrod yn atal cynhyrchu trydan
- Published
Mae wedi dod i'r amlwg bod gorsaf bŵer niwclear Wylfa ar Ynys Môn wedi bod ar gau am bum mis
Cafodd adweithydd rhif un y gwaith ei gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw ym mis Ionawr, ond mae'n parhau i fod ar gau ôl i ddifrod mewn pibell gael ei ddarganfod.
Y bwriad oedd ail ddechrau cynhyrchu trydan ym mis Ebrill, ond fe ddaeth problemau peirianyddol i'r amlwg a wnaeth ohirio'r broses.
Fe ddaeth gweithwyr o hyd i ddifrod i biben ar Fehefin 13. Mae hyn yn golygu y bydd hi'n cymryd pythefnos arall i atgyweirio'r difrod.
Pwysleisiodd Wylfa nad oedd y trafferthion yn ymwneud â deunydd ymbelydrol.
Maen nhw'n gobeithio ail ddechrau'r gwaith o gynhyrchu trydan yno ddechrau mis Gorffennaf.
Mae disgwyl i'r adweithydd, sy'n 43 mlwydd oed, gau yn barhaol yn ddiweddarach eleni.