Gleision: Rheithgor allan

  • Cyhoeddwyd
Garry Jenkins, Philip Hill, David Powell, a Charles Breslin
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Garry Jenkins, 39, Philip Hill, 44, David Powell, 50, and Charles Breslin, 62 yn y drychineb yng Nghwm Tawe

Mae'r rheithgor yn achos marwolaeth pedwar glöwr ym mhwll glo'r Gleision wedi cael eu hanfon allan i ystyried eu dyfarniad.

Wrth grynhoi'r dystiolaeth fore Iau, dywedodd y barnwr wrth y rheithgor y dylen nhw ystyried pa mor ddibynadwy yw tystiolaeth swyddog cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Mr Ustus Wyn Williams bod anghysonderau rhwng y datganiad roddodd Alan Rees i'r heddlu a'r dystiolaeth roddodd yn y llys.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Garry Jenkins, 39 a Philip Hill, 44 pan lifodd 650,000 galwyn o ddŵr i'r pwll glo ym mis Medi 2011.

Mae cyn-reolwr y pwll, Malcolm Fyfield, 58, a'r perchnogion, MNS Mining yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad drwy esgeulustod a dynladdiad corfforaethol.

'Anghysonderau'

Wrth grynhoi, dywedodd Mr Ustus Wyn Williams bod angen i'r rheithgor ystyried yr anghysonderau yn nhystiolaeth Mr Rees.

Er hynny, dywedodd hefyd bod yr erlynydd, Gregg Taylor QC yn sicr bod Mr Rees yn dweud y gwir.

Mae'r barnwr hefyd wedi dechrau amlinellu digwyddiadau diwrnod y drychineb.

Dywedodd nad oedd unrhyw un o'r dynion oedd yn gweithio yn y pwll wedi petruso am wneud hynny, ac atgoffodd y rheithgor o dystiolaeth un o'r dynion llwyddodd i ddianc, David Wyatt.

Roedd Mr Wyatt wedi dweud wrth y llys ei fod wedi gweld ychydig bach o ddŵr yn dod drwy'r ffas y diwrnod cyn y drychineb. Nid oedd ef na Phillip Hill yn poeni amdano, na chwaith Malcolm Fyfield.

'Injan Jet'

Ychwanegodd bod Mr Fyfield wedi bod yn ôl o dan y ddaear yn fuan cyn i'r dŵr lifo i mewn.

Clywodd y llys bod David Wyatt wedi rhedeg o'r pwll ar ôl clywed sŵn "fel injan jet", llwyddodd ef a Nigel Evans i ddianc ar felt cludo.

Dywedodd y barnwr bod Mr Fyfield wedi dianc ar lwybr gwahanol, a'i fod yn gwybod y ffordd oherwydd ei fod "wedi bod ar y llwybr tair gwaith o'r blaen".

Ychwanegodd y barnwr: "Dyna sut oedd yn gwybod ei fod yn gallu gadael. Ond mae'r erlyniad yn dweud nad oedd wedi cwblhau'r archwiliadau yna. Felly ai drwy lwc y llwyddodd i adael?"