Cymeradwyo tyrbin dadleuol Talacharn
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i adeiladu tyrbin gwynt gyferbyn a hen gartref Dylan Thomas yn Nhalacharn wedi cael cymeradwyaeth terfynol.
Penderfynodd aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin roi cymeradwyaeth terfynol i'r cynllun dadleuol, gan fynd yn erbyn cyngor swyddogion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn galw'r cynllun i mewn am archwiliad pellach.
Yn gynharach yr wythnos yma, dywedodd wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis bod y cynllun yn "hollol absẃrd".
Mae Ms Ellis yn un o nifer o bobl leol sy'n teimlo y byddai adeiladu tyrbin ar Fferm Mwche, Llansteffan yn difetha'r olygfa o hen dŷ Dylan Thomas.
Roedd Ms Ellis yn un o nifer oedd wedi ysgrifennu at y llywodraeth, yn gofyn i weinidogion alw'r penderfyniad i mewn.
Yn wreiddiol, cafodd y tyrbin ei gymeradwyo gan y pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin ar Mehefin 3, gan fynd yn erbyn argymhellion swyddogion cynllunio oedd yn poeni am yr effaith ar y tirlun.
Straeon perthnasol
- 18 Mehefin 2014