Merch fach yn 'gwella' wedi damwain A44
- Cyhoeddwyd

Mae merch 18 mis oed oedd mewn gwrthdrawiad a laddodd ei mam a thri aelod arall o'i theulu yn gwella yn yr ysbyty, yn ôl yr heddlu.
Mae'r ferch, sydd wedi ei henwi yn lleol fel Holly Hughes, mewn cyflwr sefydlog yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A44 rhwng Llangurig a Phonterwyd ddydd Mawrth.
Bu farw ei mam, Alison Hind, 28, yn y gwrthdrawiad rhwng car, lori danwydd a fan.
Cafodd ewythr Ms Hind, Martin Pugh, 47, a rhieni ei bartner ef, Margaret a John Kehoe, 65 a 72, eu lladd hefyd.
Cafodd Holly ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl y digwyddiad.
Roedd y teulu yn teithio mewn Ford Focus arian i gyfeiriad y dwyrain ar yr A44, gyda fan Ford Transit gwyn y tu ôl iddyn nhw, a'r tancer tanwydd yn dod i'r cyfeiriad arall.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Gareth Morgan, bod y digwyddiad yn "drasiedi enfawr" i'r gymuned.
Yn ôl llefarydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud pob dim yn eu gallu i sicrhau bod ffyrdd Cymru mor ddiogel â phosib.
Straeon perthnasol
- 18 Mehefin 2014