'Dim sail i alw Nick Ramsay AC i drefn'

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,
Roedd aelod o'r cyhoedd wedi cwyno am ymddygiad Nick Ramsay

Mae Llywydd y Cynulliad wedi dweud na fydd unrhyw weithredu pellach yn erbyn Nick Ramsay yn dilyn honiadau bod yr AC Ceidwadol yn feddw yn y Senedd.

Roedd aelod o'r cyhoedd wedi cwyno am ymddygiad a ffordd o siarad Mr Ramsay yn ystod trafodaeth am wasanaethau iechyd ar Mehefin 10.

Gwadodd Mr Ramsay ei fod wedi meddwi, a ni wnaeth y dirprwy lywydd, David Melding ymyrryd ar y pryd.

Mewn datganiad, dywedodd y Llywydd, Rosemary Butler: "Mae'r llywyddion wedi edrych ar yr amgylchiadau yn fanwl ac wedi dod i ganlyniad.

"Fe wnaethon nhw gadarnhau nad oedd unrhyw sail i alw'r aelod i drefn yn y sesiwn ar Mehefin 10.

"Ni fydden nhw'n gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater."