Pallial: Cyhuddo degfed dyn

  • Cyhoeddwyd
NCA

Mae dyn 52 oed o'r Wyddgrug wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn anweddus yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol.

Cafodd David Challinor ei rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Llys yr Ynadon Wrecsam ar Gorffennaf 9.

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â throsedd honedig yn erbyn bachgen oedd yn 13 ac 14 rhwng 1986 a 1988.

Mr Challinor yw'r degfed person i gael ei gyhuddo fel rhan o Ymgyrch Pallial i honiadau o gam-drin hanesyddol o fewn y system ofal yng ngogledd Cymru.