Cyhuddo nyrsys o 'ffugio nodiadau'
- Cyhoeddwyd
Mae tri o nyrsys wedi cael eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â ffugio gwybodaeth mewn nodiadau cleifion.
Mae Lauro Bertulano, 44, Clare Cahill, 41 a Rebecca Jones, 29 i gyd yn dod o ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y tri eisoes wedi cael eu gwahardd o'r gwaith ers y flwyddyn ddiwethaf.
Fe ddigwyddodd y troseddau honedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Mae'r tri wedi cael gorchymyn i ymddangos gerbron Llys yr Ynadon Pen-y-bont ar ddydd Llun 28 Gorffennaf.