Y Traddodiad Barfol

  • Cyhoeddwyd

Blew, blew a mwy o flew! Yn ddiweddar mae tyfu barf yn ffasiynol ymhlith dynion Cymru. Mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn gofyn beth sydd wrth wraidd y tueddiad.

O actorion i chwaraewyr pêl droed mae'r arferiad yn tyfu yn gyflymach na'r barfau eu hunain. Mae Trystan Lewis yn gyd-berchennog salon VADAtelier yn y Bontfaen:

"Dwi wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o ddynion sy'n cerdded trwy'n drysau ni dros y flwyddyn diwethaf yn bendant. Mae dylanwadau o'r byd chwaraeon a cherddoriaeth wedi achosi i ddynion gymryd lot fwy o amser ar eu hedrychiad nhw, David Beckham ymhlith y mwya' poblogaidd, ac wedi dod yn rhan o'n diwylliant ni mewn ffordd.

"Mae sawl dyn wedi dod yn gofyn i mi ail-greu barf y model Ricki Hall sydd wedi ennill sawl gwobr am ei farf hefyd sy'n dangos bod dynion yn fwy ymwybodol o ffasiwn nag erioed.

Disgrifiad o’r llun,
Mae llawer o ddynion Cymru yn trio ail-greu golwg David Beckham yn ôl Trystan

'Hobo chic'

"Mae'r perception wedi newid, ma'r barf nawr yn cael ei weld yn rhywbeth deniadol, masculine, sexy...'hobo chic'! Oherwydd y poblogrwydd, dwi'n mynd ar gwrs glân-eillio cyn hir er mwyn ehangu'r gwasanaeth mae'r salon yn ei gynnig i ddynion!"

Yn ddiweddar mae Llŷr Griffiths-Davies, cyhoeddwr tywydd ar BBC Radio Cymru wedi tyfu ei farf. Pam?

"Pam lai?! Dwi'n credu ei fod yn rhywbeth y dylai pob dyn ei drio rhywbryd. Dim ond ar wyliau fydden i fel arfer yn tyfu rhywfaint o farf, ond dros y gwanwyn dyma benderfynu ei adael i dyfu i weld sut fydden i'n edrych. A dweud y gwir, ro'n i'n eitha hoffi'r ddelwedd farfog, felly dyma benderfynu ei chadw - am bach o leia'! A gan mai ar y radio dwi'n gweithio, rodd e'n gyfle i arbrofi gyda fy nelwedd!"

Disgrifiad o’r llun,
Dyw rhai ddim yn nabod Llŷr bellach!

Dywedodd Llŷr bod ei deulu a'i ffrindiau yn ei hoffi:

"Falle'u bod nhw'n rhy garedig…Ma hi'n syndod faint o bobl sy'n dweud eu bod nhw'n hoffi dyn â barf, a faint o bobl sydd ddim yn fy adnabod ar yr olwg gyntaf ers i mi dyfu barf."

Ond yw hi'n hawdd ei chynnal a'i chadw?

"Mae'n ddigon hawdd ar y cyfan," meddai Llŷr "ond roedd yn cosi tipyn ar y dechrau. Y tro diwethaf imi dorri fy ngwallt mi wnes i holi'r barbwr i'w thwtio - ro'dd hwnnw'n hoff iawn o farfau felly ges i gwpwl o dips ganddo ar sut i ofalu amdani. Fel arall bydda i'n chwilio am gyngor ar y we - mae'n syndod faint o flogiau ac ati sydd yn cynnig cyngor barfol!"

Faint wyddoch chi am farfau dynion Cymru. Rhowch gynnig ar ein cwis Pwy Bia'r Blew?

(Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi gyntaf ar wefan Cymnru Fyw ym mis Mehefin 2014)

Hefyd gan y BBC