£850,000 i safleoedd sipsiwn Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae cyfanswm o £853,278 o grantiau'n cael eu neilltuo i chwe awdurdod lleol i'w helpu i adnewyddu safleoedd sipsiwn a theithwyr.
Dyma'r wythfed flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu Grantiau Cyfalaf ar gyfer safleoedd sipsiwn a theithwyr.
Dyma'r cynigion llwyddiannus:
- Cyngor Dinas Caerdydd £58,575.86;
- Cyngor Sir Caerfyrddin £189,450;
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot £174,554;
- Cyngor Sir Penfro £328,927.50;
- Cyngor Rhondda Cynon Taf £16,288.38;
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam £85,482.50
Bydd y grantiau'n cael eu gwario ar weithgareddau, gan gynnwys rhoi wyneb newydd ar blotiau, ailwifro trydanol, tirlunio plotiau, codi ffensys a gwella diogelwch.
'Yr un cyfleoedd'
Wrth gyhoeddi'r grantiau, dywedodd Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau: "Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod sipsiwn a theithwyr yng Nghymru yn cael yr un cyfleoedd â phobl sy'n byw mewn cymunedau sefydlog, yn cael mynediad at wasanaethau a byw'r bywyd y maent yn dymuno ei fyw.
"Mae'r grantiau hyn yn adeiladu ar ein gwaith o helpu awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd o ansawdd ar gyfer y gymuned sipsiwn a theithwyr."
Ym mis Ebrill 2014 fe gafodd awdurdodau lleol wahoddiad i gyflwyno ceisiadau am gyfran o'r cyllid grant cyfalaf.
Mae'r grant yn talu costau llawn prosiectau ar gyfer safleoedd newydd a phrosiectau adnewyddu safleoedd presennol sipsiwn a theithwyr.