Llofrudd Antigua wedi dianc o'r carchar
- Cyhoeddwyd

Mae dyn gafodd ei garcharu am oes am ladd cwpl o dde Cymru yn Antigua wedi dianc.
Fe wnaeth Avie Howell a dyn arall, Kaniel Martin, saethu Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, o Bontardawe yng Ngorffennaf 2008.
Roedd y ddau ar ddiwrnod olaf eu mis mêl yn Antigua.
Bu farw Mrs Mullany yn syth wedi iddi gael ei saethu yn y bwthyn oedd yn rhan o'r gwesty.
Anafwyd ei gŵr yn ddifrifol a chafodd ei gludo yn ôl i Gymru cyn marw wythnos yn ddiweddarach.
Dywed heddlu Antigua fod Howell wedi dianc ddydd Iau ar ôl dringo wal 30 troedfedd (9 m).
Llwyddodd i ddianc gyda dyn arall oedd yn wynebu achos llys ar gyhuddiadau o dwyll.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Fe wnaeth Avie Howell ddianc o Garchar Ei Mawrhydi ynghyd â charcharor arall Kenroy Laurie Marshall.
"Mae'n debyg iddynt ddefnyddio offeryn i dori twll mewn rhan o rwyll a dringo dros wal 30 troedfedd."
Dywedodd Sarisant Raymond Finley ei fod yn credu bod Howell yn parhau ar yr ynys.
Cafodd Howell a Martin eu dyfarnu'n euog o lofruddio Mr a Mrs Mullany yn 2011.
Dywedodd Peter Hain, AC Castell-nedd: "Rwy'n credu ei fod yn holl bwysig fod Howell yn cael ei ddal a'i roi yn ôl yn y carchar - a hynny ar frys. Fe wnaeth o gyflawni llofruddiaeth erchyll o gwpl ifanc oedd a gymaint i roi i'r gymuned leol.
"Mae'n anhygoel i feddwl fod y dyn yma a'i draed yn rhydd."
Straeon perthnasol
- 4 Ionawr 2012
- 18 Rhagfyr 2011
- 17 Rhagfyr 2011
- 16 Rhagfyr 2011