Carcharu dyn am gasglu tomen sbwriel 100 troedfedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei garcharu am gasglu tomen sbwriel 100 troedfedd o uchder heb ganiatâd.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Terrence Davies, 54, wedi casglu gymaint o sbwriel ar ei dir ei fod wedi newid tirlun pentref De Corneli.
Clywodd y llys hefyd bod Davies wedi gwneud £277,000 o'r busnes mewn 14 mis.
Roedd Davies wedi cyfaddef pedwar cyhuddiad o weithio heb ganiatâd, a chafodd ei garcharu am ddwy flynedd a hanner.
Rhybudd
Dechreuodd Davies y safle casglu sbwriel llai na 500 llath oddi wrth Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym mhentref De Corneli ger Pen-y-bont.
Dywedodd yr erlynydd, Alex Greenwood: "Roedd wedi cael gwybod y byddai angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol a chaniatâd yr Awdurdod Amgylcheddol.
"Cafodd llythyr o rybudd ei yrru ond yna daeth swyddogion amgylcheddol o hyd i blastig, pren, bagiau du ac eitemau trydanol.
"Daethon nhw yn ôl eto a gweld tomenni o wastraff pren a tan yn llosgi, a gwastraff peryglus ar y safle."
'Gwarthus'
Cafodd Davies rybudd i beidio â gadael unrhyw wastraff pellach i'r safle, ond ymhen tri mis roedd matresi, teiars a gwastraff adeiladu wedi cael eu claddu yno.
Roedd Davies, oedd yn gweithio dan enw Boyd Davies Recycling Services, wedi cyfaddef y pedwar cyhuddiad yn ei erbyn.
Wrth ei garcharu am ddwy flynedd a hanner, dywedodd y barnwr Neil Bidder: "Roedd y tomenni gwastraff yn 30 metr o uchder ac i fyny at 40 metr o led ac yn debyg i fryniau mawr."
Ychwanegodd: "Roedd yn droseddu gwarthus. Roedd maint y gwastraff yn enfawr a bydd y costau adfer yn anferth."