Rhybudd o 'drychineb' i gynghorau

  • Cyhoeddwyd
Cynghorau Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i Lafur benderfynu pa drefniant fyddai orau o'u safbwynt nhw

Mae cyn arweinydd cyngor o'r Blaid Lafur wedi rhybuddio y gallai'r cynlluniau i uno cynghorau ledled y wlad fod yn "drychineb".

Yn ôl Jeff Jones, oedd yn arfer rhedeg Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, mae cynghorau eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd toriadau ac mae'r syniad y bydd gostwng eu nifer yn helpu yn "nonsens".

Mae disgwyl i gyfarfod o uwch aelodau Llafur ddydd Sadwrn benderfynu ar sut dylai'r map newydd edrych o ran cynghorau.

Fis Ionawr fe wnaeth comisiwn annibynnol argymell gostwng y nifer o'r 22 presennol i 10, 11 neu 12.

Fe ddywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths yr wythnos hon ei bod hi am weld "newidiadau mawr" yn digwydd.

Ond daeth blas o'r ffordd mae llawer o gynghorau yn debygol o ymateb yng nghynhadledd yr WLGA, wrth i arweinydd y sefydliad ymosod ar y llywodraeth am beidio trafod digon gyda'r cynghorau.

Mi fyddai unrhyw beth fyddai'n cael ei gytuno gan Lafur angen cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru cyn cael ei weithredu.

'Trychineb'

Gan nad oes gan y Blaid Lafur fwyafrif yn y Cynulliad - mae ganddynt union hanner y seddi - mae'n debyg y bydd angen iddyn nhw ddod i gytundeb gydag o leiaf un o'r pleidiau eraill cyn gallu ennill pleidlais.

Mae'r llywodraeth hefyd yn ceisio annog cynghorau i ddod i ddealltwriaeth ymysg ei gilydd ynglŷn ag uno.

Ond nid yw'r syniad yno yn debygol o gael croeso gan rai cynghorau o leiaf, yn ôl Jeff Jones.

"Rwy'n meddwl ei fod yn mynd i droi argyfwng fewn i drychineb," meddai.

"Rwy'n meddwl mai dyma lle mae'r arweinwyr wir yn tynnu eu gwallt mas."