Avie Howell wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Avie Howell

Mae un o'r dynion gafodd ei garcharu am oes am lofruddio cwpl o dde Cymru yn Antigua wedi marw, yn ôl yr heddlu.

Cafodd Avie Howell, 24 ei saethu wedi iddo ddianc o'r carchar ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Antigua ei fod wedi marw am 12:00 amser lleol (17:00 BST) ddydd Gwener.

Yn ôl yr heddlu, gwrthdaro rhwng Howell a rhai o'u swyddogion wnaeth arwain at y saethu.

Roedd adroddiadau cynnar yn dweud mai yn ei ben-glin roedd Howell wedi cael ei saethu.

Trasiedi

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Ben a Catherine Mullany yn Antigua ar eu mis mêl

Fe gafodd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe eu saethu gan Howell a dyn arall, Kaniel Martin, tra roedden nhw ar eu gwyliau yn Antigua ym mis Gorffennaf 2008.

Roedden nhw ar ddiwrnod olaf eu mis mêl.

Bu farw Mrs Mullany yn syth o ganlyniad i'w hanafiadau. Fe wnaeth ei gŵr ddioddef anafiadau difrifol a bu farw wythnos ar ol iddo gael ei gludo nôl i Gymru.

Roedd y ddau mewn bwthyn oedd yn rhan o'r gwesty roedden nhw'n aros ynddo pan ddigwyddodd y drasiedi.

Fe wnaeth y llofruddwyr ddwyn eu ffonau symudol, camera digidol rhad ac ychydig o arian.

Cafodd Howell a Martin eu dyfarnu'n euog o lofruddio Mr a Mrs Mullany yn 2011.