Gwrthdrawiad: Beiciwr wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Sir Fynwy, meddai Heddlu Gwent.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Kawasaki a char BMW du ar yr A449 i'r gogledd rhwng Coldra a Brynbuga.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11.15 fore Sadwrn a daeth ambiwlans awyr yno, ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ymchwiliad ar droed i weld beth achosodd y gwrthdrawiad.

Nawr, mae Heddlu Gwent yn awyddus i siarad ag unrhywun sydd gan wybodaeth - gan ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod '202'.