Mosg: Sefyllfa Syria yn 'frawychus'

  • Cyhoeddwyd
Fideo gan Isis sydd i'w weld yn dangos ymladdwyr o Brydain ac Awstralia
Disgrifiad o’r llun,
Fideo gan Isis sydd i'w weld yn dangos ymladdwyr o Brydain ac Awstralia

Mae un o ymddiriedolwyr mosg yng Nghaerdydd yn dweud bod y newyddion am ddynion ifanc yn ymuno â gwrthryfel Syria yn "frawychus".

Meddai Barak Al Bayaty, sy'n rhan o Ganolfan Al-Manar yn ardal Cathays, roedd Nasser Muthana yn ymweld â'r mosg, yn ogystal â chanolfannau eraill yng Nghaerdydd.

Daeth i'r amlwg ddoe bod Mr Muthana ymysg rhai mewn fideo sydd i'w weld yn dangos dynion o Brydain yn galw ar bobl i ymuno â'r jihad yn y dwyrain canol.

Fe ddywedodd Mr Al Bayaty eu bod nhw yn erbyn mynd i Syria i gymryd rhan yn y gwrthdaro, ac fe ychwanegodd eu bod nhw wedi gwneud hyn yn amlwg lawer tro.

'Peri pryder'

"Mae'r datblygiad yn peri pryder... Dw i'n meddwl bod y dynion ifanc 'ma'n cael eu heffeithio gan y we," meddai.

"Dw i'n rhiant... 'Dy ni wedi'n brawychu, wedi'n brawychu ar ran ein cyd-ddinasyddion."

Ychwanegodd Mr Al Bayaty na ddylen ni gau'r drws ar bobl ifanc sy'n dewis mynd i Syria, gan na ddylai penderfyniad o'r fath fod yn "docyn un ffordd".

Fe ddywedodd fod hon yn broblem ledled Prydain, nid dim ond yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae teulu Nasser Muthana yn dweud eu bod nhw'n torri eu calonnau o glywed ei fod yn Syria

'Torcalonnus'

Yn ôl teulu Nasser Muthana, fe aeth o i Syria gyda'i frawd bach 17 mlwydd oed Aseel.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran ei deulu: "Dydyn nhw ddim yn hapus am y ffaith bod Nasser wedi mynd. Doedden ni ddim yn gwybod ei fod yn mynd. Fydden ni heb adael iddo fynd petae ni'n gwybod.

"Roedd fy nheulu yn fwy trist o glywed fod Aseel wedi mynd. Mae'n dorcalonnus oherwydd nad ydan ni'n gwybod os wnawn ni fyth eu gweld nhw eto.

"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod lle maen nhw a dydyn ni ddim mewn cysylltiad â nhw.

"Fe aeth Nasser ac Aseel oherwydd eu bod nhw'n teimlo'n euog am Syria ond roedden ni wedi synnu o'u gweld nhw'n siarad am y pethau hyn ar YouTube.

"Roedd y ddau yn dduwiol a chrefyddol, gyda diddordeb yn y ffydd."

Arestio dau

Daeth i'r amlwg ddydd Sadwrn bod Heddlu'r De wedi arestio dau ddyn 19 a 23 oed Gaerdydd, wedi iddyn nhw gyrraedd adref o Syria ym mis Mawrth ac Ebrill eleni.

Fe gafodd y ddau eu holi dan amheuaeth o dderbyn hyfforddiant terfysgaeth.

Mae'r ddau ddyn wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod Nasser Muthana wedi teithio i Syria gyda'r dynion hyn.