De Affrica 31-30 Cymru
- Cyhoeddwyd

Torcalon oedd hi i Gymru yn Ne Affrica, wrth i'r Springboks sicrhau buddugoliaeth ym munudau ola' ail Brawf yr haf yn Nelspruit.
Fe gafodd Jamie Roberts ac Alex Cuthbert ddwy gais gynnar i'r cochion, gan roi Cymru ar y blaen o 17 pwynt.
Ond roedd diffyg disgyblaeth yn broblem, gyda chardiau melyn i Luke Charteris a Dan Biggar yn rhoi cyfle i Dde Affrica fanteisio tua diwedd yr hanner cyntaf.
Daeth cais arall i Gymru yn yr ail hanner - gan Ken Owens y tro hwn.
Fodd bynnag, roedd Willie Le Roux yn barod i daro'n ôl.
Yna, y disgyblaeth yn methu eto, a'r Springboks yn trosi yn dilyn cais gosb.
Y sgôr derfynol - 31-30 i Dde Affrica.
De Affrica: Willie le Roux; Cornal Hendricks, JP Pietersen, Jan Serfontein, Bryan Habana; Morné Steyn, Fourie du Preez; Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Jannie du Plessis, Flip van der Merwe, Victor Matfield (capt), Francois Louw, Willem Alberts, Duane Vermeulen.
Eilyddion: Schalk Brits, Gurthrö Steenkamp, Coenie Oosthuizen, Lood de Jager, Schalk Burger, Ruan Pienaar, Wynand Olivier, Lwazi Mvovo.
Cymru: Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Seintiau Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Ken Owens (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Capt) (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Josh Turnbull (Scarlets), Taulupe Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent).
Eilyddion: Matthew Rees (Gleision Caerdydd), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Dan Baker (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), James Hook (Perpignan), Matthew Morgan (Gweilch).
Dyfarnwr: Steve Walsh