Cyhuddo Samson Lee yn dilyn gêm Cymru
- Published
Mae prop tîm rygbi Cymru, Samson Lee wedi cael ei gyhuddo o fwrw Flip van der Merwe gyda'i ben yn ystod ail hanner y Prawf yn erbyn De Affrica b'nawn Sadwrn.
Colli o drwch blewyn oedd hanes Cymru, wrth i'r Springboks drosi yn dilyn cais gosb ym munudau ola'r gêm.
Mae gwrandawiad i benderfynu ddylai Samson Lee gael ei ddisgyblu yn cael ei gynnal nos Sadwrn.