Gwrthdrawiad A449: Arestio gyrrwr

  • Cyhoeddwyd

Wedi i yrrwr beic modur farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy fore Sadwrn, mae heddlu wedi arestio gyrrwr car oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Mae gyrrwr y BMW du wedi ei arestio dan amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Kawasaki a'r car ar yr A449 i'r gogledd rhwng Coldra a Brynbuga.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11.15 fore Sadwrn a daeth ambiwlans awyr yno, ond roedd y dyn 60 oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ymchwiliad ar droed i weld beth achosodd y gwrthdrawiad.

Nawr, mae Heddlu Gwent yn awyddus i siarad ag unrhywun sydd gan wybodaeth - gan ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod '202 21/06/14'.