Cyhuddo Samson Lee: Disgwyl dyfarniad
- Cyhoeddwyd

Yn dilyn cyfarfod disgyblu i drafod ymddygiad Samson Lee yn ystod gêm Cymru a De Affrica b'nawn Sadwrn, mae disgwyl canlyniad yn ystod yr wythnos.
Fe gafodd y prop ei gyhuddo o daro Flip van der Merwe gyda'i ben yn ystod ail hanner y Prawf yn erbyn y Springboks.
Colli 31-30 oedd hanes Cymru yn Nelspruit.
Fe gafodd y gwrandawiad disgyblu ei gynnal wedi'r gêm neithiwr ac mae disgwyl y bydd dyfarniad yn ystod yr wythnos.
Roedd prop y Scarlets yn cychwyn ei gêm gyntaf i Gymru, gan gymryd lle Adam Jones yn y XV.
Straeon perthnasol
- 21 Mehefin 2014
- 21 Mehefin 2014