Taflu cerrig tuag at griw tân
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n dweud bod grŵp o bobl ifanc wedi ymosod ar griw o ddiffoddwyr wrth iddyn nhw geisio diffodd tân yng Nghaerdydd.
Roedd y criw yn gweithio yn ardal Llanrhymni ac yn ceisio diffodd tân mewn coeden.
Mae'n debyg bod y bobl ifanc - grŵp rhwng 13 a 15 oed - wedi cuddio mewn llwyni a dechrau taflu cerrig tuag at y diffoddwyr.
Chafodd neb eu hanafu ond fe gafodd injan dân ei difrodi.