Isis: Dyn arall o Gaerdydd yn 'ymladd yn Syria'

  • Cyhoeddwyd
Fideo gan Isis sydd i'w weld yn dangos ymladdwyr o Gaerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n ymddangos bod y fideo yn cynnwys dau ddyn o Gaerdydd - Nasser Muthana (canol) a Reyaad Khan (chwith)

Mae BBC Cymru'n deall mai Reyaad Khan yw enw'r trydydd dyn ifanc o Gaerdydd sydd wedi teithio i Syria i ymladd gyda gwrthryfelwyr Isis.

Mae e'n ymddangos mewn fideo gyda Nasser Muthana sydd hefyd o'r ddinas.

Mae brawd Nasser Muthana, Aseel, hefyd wedi teithio i Syria ar ôl dweud wrth ei dad ei fod yn mynd i aros gyda ffrind er mwyn adolygu cyn arholiad mathemateg.

Mae'n debyg bod Reyaad Khan wedi bod yn fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd Cantonian yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae brawd bach Nasser, Aseel hefyd wedi teithio i Syria

Cyd-fyfyrwyr

Wedi hynny fe aeth i'r chweched dosbarth i Goleg Catholig Dewi Sant - yno hefyd roedd Nasser Muthana yn fyfyriwr.

Meddai'r Cynghorydd Neil McEvoy - sy'n llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Cantonian ac yn cynrychioli ardal y Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd:

"Mae'n achosi pryder mawr i mi fod pobl o'r ddinas hon yn mynd i Syria ac Irac.

"Mae'r hyn mae'n nhw'n ei frwydro amdano yn hynod annemocrataidd ac yn gwrthwynebu'r gymdeithas oddefger yr ydym ni am fyw ynddi.

"Mae gennym ni gwestiynau mawr am sut i annog pobl i ddod yn rhan o'n cymdeithas ni - mae 'na ddadl dros gymryd pasborts gan y bobl yma.

"Ond mae angen i bobl fod yn ymwybodol o broblem y drones sy'n lladd trigolion yn y Dwyrain Canol - mae hynny'n annog pobl i adael Prydain a chwffio mewn gwledydd eraill."

'Brwydrau pobl eraill'

Yn y cyfamser mae tad Nasser ac Aseel Muthana wedi dweud wrth BBC Cymru iddo gael trawiad ar y galon ar ol clywed fod ei fab 17 oed Aseel, wedi dilyn ei frawd hŷn i Syria.

Mae Ahmed Muthana'n dweud nad lle ei feibion yw ymladd brwydrau pobl eraill.

Mae ef eisiau iddyn nhw ddod adre'n ddiogel ond mae'n cydnabod na fydd hynny'n hawdd o hyn ymlaen.