Dyn 'yn gyrru heb drwydded'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedrannus mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad yng Nghwmbran fore Sul.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad - rhwng car glas, a dyn 75 oed oedd yn cerdded heibio - tua 9.45am ger yr orsaf golchi ceir ar Heol Llantarnam.
Mae dyn 26 oed o Gaerloyw wedi ei arestio dan amheuaeth o yrru'n ddiofal, gyrru heb drwydded a gyrru heb yswiriant.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Nawr mae heddlu am siarad gyda pherchnogion y car - gan ei bod hi'n bosib nad ydyn nhw'n gwybod am y gwrthdrawiad.
Gall unrhywun â rhagor o wybodaeth gysylltu drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod '237 22/06/14'.