Chwaraewr rygbi rhyngwladol hynaf Cymru wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu'n ysgrifennydd, cadeirydd a llywydd yng Nghlwb Rygbi Llanelli
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol hynaf Cymru, Handel Greville wedi marw yn 92 oed.
Yn enedigol o Drefach, fe chwaraeodd i Gaerfyrddin ac Abertawe cyn ymuno â Llanelli.
Fe enillodd y mewnwr ei unig gap i Gymru mewn buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd yn 1947 - yn eilydd i Haydn Tanner.
Yn ddiweddarach, bu'n ysgrifennydd, cadeirydd a llywydd yng Nghlwb Rygbi Llanelli - yr unig ddyn i ddal y tair swydd.
Yn 2008, ac yntau'n 87 oed, fe oedd y capten hynaf yn y parêd cyn y gêm olaf ar Barc y Strade.
Bu farw nos Wener yn Ysbyty'r Tywysog Phillip, Llanelli.
Mynegodd y Scarlets eu cydymdeimlad dwysaf yn dilyn ei farwolaeth.