Oedi wedi gwrthdrawiad ar yr A487

  • Cyhoeddwyd

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio yng Ngheredigion wedi gwrthdrawiad difrifol ar yr A487 yn Llanarth.

Roedd rhaid i'r gwasanaeth tân ddefnyddio offer arbenigol i gael pobl yn rhydd, wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau gar tua 4.40yh.

Roedd 'na feddyg yno, ac mae rhai'n cael eu cludo i'r ysbyty.

Mae'r ambiwlans awyr wedi cael ei alw, hefyd.

Mae'r ffordd ynghau, a thraffig yn cael ei ddargyfeirio rhwng Synod Inn a sgwâr Llanarth.