Cyhoeddi gwrthwynebwyr timau Cymru yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair Pencampwyr

Mi fydd y Seintiau Newydd yn chwarae Slovan Bratislava yn ail rownd y gemau cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr.

Mae'r tîm o Slofacia wedi blasu llwyddiant Ewropeaidd nol yn '69 pan guron nhw Barcelona yng Nghwpan Enillwyr y Gwpan.

Fe gyrhaeddon nhw rownd y grwpiau yng Nghynghrair Ewropa yn 2011/12 ar ôl curo Roma, ond fe aethon nhw allan ar ôl ennill dim ond un pwynt.

Mi fydd y gêm gyntaf yn cael ei chynnal yn Stadiwm Pasienky yn ystod mis Gorffennaf.

Cynghrair Ewropa

Mae timau eraill Cymru fydd yn cystadlu yng Nghynghrair Ewropa hefyd wedi cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr.

Bydd Bangor yn wynebu tîm o Wlad yr Ia, Stjarnan, sydd wedi dod yn enwog ers i fideos o'u dathliadau creadigol gael eu gweld gan filoedd ar y we.

Mae Stjarnan ar frig Uwchgynghrair Gwlad yr Ia ar hyn o bryd.

Haugesund o Norwy fydd gwrthwynebwyr Airbus UK Broughton, a bydd y Cymry yn gweld cyfle ar ôl i Haugesund lwyddo i ennill dim ond dwy gêm allan o 14 yn y tymor hyd yn hyn.

Bydd Aberystwyth yn teithio ar draws For Iwerddon i chwarae yn erbyn Derry City yn y gêm arall.