Parth .cymru y flwyddyn nesaf
- Published
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau defnyddio cyfeiriad cyfrifiadurol .cymru a .wales o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Bydd y parthau rhyngrwyd Cymreig newydd yn dod i fodolaeth yn ddiweddarach eleni.
Wrth siarad mewn cynhadledd yn Llundain, dywedodd Carwyn Jones y bydd y datblygiad yn gyfle i Gymru gael ei phresenoldeb amlwg ei hun ar y we.
Bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau ar y newid o .gov.uk i .cymru a .wales o'r flwyddyn nesaf, ac yn ymuno â sefydliadau eraill sydd hefyd yn gwneud y newid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
'Cyfle cyffrous'
Mae ymgyrch wedi bod ers blynyddoedd i geisio sicrhau bod gan bobl yr hawl i ddefnyddio Cymru neu Wales ar eu cyfeiriad rhyngrwyd, yn enwedig ers penderfyniad Icann, y corff rhyngrwyd rhyngwladol, yn 2012 i ehangu'r nifer o gyfeiriadau sydd ar gael fel '.com', '.net' a '.org'.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru gael presenoldeb amlwg ar y we ac yr wyf yn falch ein bod wedi gallu ymuno â sefydliadau proffil uchel eraill yn arwain y ffordd gyda'r newid i .wales a .cymru.
"Mae hyn yn rhoi cyfle i osod Cymru ar wahân ar-lein a hyrwyddo manteision unigryw ein gwlad, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.
"Trwy sicrhau enwau parth dwyieithog rydym hefyd yn gallu hyrwyddo ac annog y defnydd o'r iaith Gymraeg ar-lein."
Ymateb
Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrott AC y dylai'r llywodraeth ddwyn pwysau ar y cwmniau sy'n cofrestru cyfeiriadau rhyngrwyd i brisio'r cyfeiriadau newydd ar "lefel resymol", a hynny er mwyn i fusnesau bach fedru manteisio ar "gyfle gwych".
Ym marn y Ceidwadwr Suzy Davies, mae'n "hollol gywir" i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfeiriadau newydd ar y cyfle cyntaf.
"Mae trafodion ar-lein yn ffordd gynyddol broffidiol i fusnesau Cymru i roi hwb i archebion, felly dylai ei gwneud hi'n haws i adnabod cyflenwyr wedi'u lleoli yng Nghymru helpu i hyrwyddo economi Cymru," meddai Ms Davies.
Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Bethan Jenkins: "Mae'r enwau parth newydd yn hirddisgwyliedig - mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n gyson iddynt gael eu creu a'u mabwysiadu".
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Rhagfyr 2012
- Published
- 23 Rhagfyr 2011
- Published
- 9 Tachwedd 2011
- Published
- 3 Tachwedd 2010
- Published
- 6 Awst 2008