Teyrngedau wedi gwrthdrawiad angheuol yr A44
- Published
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r pedwar person gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ar yr A44 rhwng Llangurig a Phonterwyd ddydd Mawrth.
Dywedodd teulu John a Margaret Kehoe, 72 a 65 oed: "Roedd Mam a Dad yn agos iawn at ei gilydd ac at y teulu.
"Mae'n golled fawr iawn i ni gyd ac mae ein poen gymaint yn fwy drwy eu colli ill dau yr un pryd ac o dan amgylchiadau trasig.
"Er ein bod yn galaru, rydym yn cymryd cysur o gynhesrwydd a chariad y teulu y maent yn gadael ar ôl."
'Cariadus'
Roedd Martin Pugh yn 47 oed, ac yn bartner i ferch John a Margaret, sef Lynn.
"Roedd Martin yn hwyliog, yn gariadus ac ystyriol", medd y teulu.
"Yr oedd yn ddyn teulu, yn bartner ymroddedig i Lynn ac yn dad i Matthew a Nicole.
"Am yr 11 mlynedd diwethaf mae wedi gofalu am ei bartner Lynn ond cyn hynny bu'n gweithio yn Laura Ashley."
Roedd Alison Hind yn 28 oed, ac yn nith i Martin Pugh. "Roedd Alison yn berson hyfryd, caredig a gofalgar", medd y teulu.
"Roedd yn fam wych, partner, merch a ffrind i bawb oedd yn ei hadnabod.
"Roedd yn ffoli ar ei dau blentyn, Ethan a Holly, yn agos iawn at ei theulu a'i ffrindiau, bob amser yn rhoi pobl eraill cyn ei hun ac yn weithiwr caled iawn."
Yn ôl yr heddlu roedd y pedwar yn hanu o ardal Llanidloes.
Cafodd babi 18 mis oed, Holly, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn cyflwr difrifol, gydag anafiadau i'w phen.
Dywedodd yr heddlu fore Llun ei bod yn gwella, ond yn dal yn yr ysbyty.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 15 milltir o Aberystwyth, ger Eisteddfa Gurig, rhwng Llangurig (Powys) a Phonterwyd yng Ngheredigion.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod criwiau o Aberystwyth a Llanidloes wedi eu hanfon i'r ddamwain ar ôl derbyn galwad am 3.01pm.
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Mehefin 2014
- Published
- 18 Mehefin 2014