Damwain ger Llanelli: Dyn wedi marw a bachgen yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 32 oed wedi marw ac mae bachgen saith oed yn ddifrifol wael yn dilyn damwain beic modur ar lwybr seiclo.

Digwyddodd y ddamwain o dan y bont ar y Ffordd Newydd, y Ffwrnais, Llanelli tua 22:00 ddydd Sadwrn.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, "Un cerbyd oedd yn y ddamwain, sef beic modur.

"Roedd y dyn 32 oed yn gyrru, gyda theithiwr piliwn saith oed.

"Cafodd y dyn ei gludo i ysbyty Treforys lle bu farw. Aed â'r bachgen i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle y mae mewn cyflwr difrifol".

Gallai unrhyw un â rhagor o wybodaeth gysylltu drwy ffonio 101.