Cyrsiau o Loegr i ddisgyblion TGAU ysgolion annibynnol
- Published
Mae nifer o ysgolion annibynnol yng Nghymru wedi dweud wrth y BBC y byddan nhw yn cynnig cyrsiau arholi o Loegr y flwyddyn nesa' yn hytrach na dilyn cyrsiau unigryw Cymru.
Dywed Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru fod diffyg hygrededd nac adnabyddiaeth ryngwladol mewn cyrsiau penodol i Gymru.
Ar hyn o bryd mae dau draean o ysgolion annibynnol Cymru, rhai sy'n codi ffi, yn dilyn cyrsiau Cymreig.
Y flwyddyn nesa bydd 'na gymwysterau TGAU newydd yng Nghymru ac yn Lloegr a fydd yn wahanol iawn i'w gilydd.
Cyrsiau newydd fydd y rhain mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg a fydd yn seiliedig yn fras ar y strwythur TGAU presenol.
2017
Yn Lloegr fe fydd 'na system raddio newydd gyda rhifau yn hytrach na llythrenau a fydd 'na ddim gwaith cwrs i'r mwyafrif o bynciau.
Bydd y newidiadau yn digwydd yn raddol, gyda disgyblion 13 oed, y rhai fydd yn sefyll yr arholiad yn 2017, y cyntaf i'w dilyn.
Dywedodd Kenneth Underhill, cadeirydd Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru, bod 'na lawer o drafod am sefydlu system addysg o safon fyd-eang yng Nghymru ac mai dyna eu dymuniad.
"Ond ychydig o sylwedd sydd ar gyfer hynny," meddai.
"Mae 'na nifer o benaethiaid yr ysgolion annibynnol yma sy'n Gymry gwladgarol, ond ein cyfrifoldeb yw gwneud y gorau ar gyfer y disgyblion.
"Dyw hynny'n ddim i'w wneud â dewis Cymru neu Loegr, ond yr hyn sydd orau ar gyfer y disgyblion."
Cyfartal
Mae BBC Cymru yn deall y bydd Ysgol Friars ym Mangor, sydd o dan ofal awdurdod lleol Gwynedd, yn edrych ar opsiynau ar gyfer TGAU Iaith Saesneg.
Byddai hynny'n cynnwys y dewis o ddefnyddio bwrdd arholi Cymru, neu ddefnyddio bwrdd arholi Lloegr yn unig.
Yn ôl dirprwy bennaeth yr ysgol, David Healey, maen nhw'n ystyried hyn am fod 'na "fwy o berygl" i'r cymhwyster o Gymru i beidio â chael ei drin yn gyfartal.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn hyderus y bydd y cymwysterau yn cael eu parchu.
"Mae'r ad-drefnu ar sail tystiolaeth gref gan adolygiad annibynnol o gymwysterau ac eraill.
"Rydym yn hyderus y bydd y drefn cymhwyso newydd yr ydym yn ei ddatblygu yn cael ei barchu ac y bydd yn gadarn.
"Rydym yn benderfynol o sicrhau bod gan ein pobl ifanc gymhwysterau credadwy, trwyadl a gwerthfawr a fydd yn allwedd ar gyfer llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol...
"... ac rydym yn hyderus bod y camau yr ydym wedi ei wneud y rhai cywir ar gyfer ein disgyblion."
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Mawrth 2014
- Published
- 19 Gorffennaf 2013