Defnyddio'r cyffur khat bellach yn anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Mae gwaharddiad ar ddefnyddio'r cyffur Khat, sy'n boblogaidd gyda phobl o Somalia, Yemen ac Ethiopia, wedi dod i rym.
Mae Khat, cyffur sy'n cael ei gnoi, erbyn hyn yn gyffur Dosbarth C gyda chosb o hyd at 2 flynedd yn y carchar neu ddirwy amhenodol i unrhyw un gyda'r cyffur yn eu meddiant.
Mae'r cyffur eisoes wedi'i wahardd yn yr Unol Daleithiau, Canada a rhai o wledydd Ewrop.
Daw'r gwaharddiad i rym ar ôl penderfyniad yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, i atal unrhyw ddefnydd o'r cyffur er mwyn diogelu aelodau o'r gymuned sy'n agored i niwed.
Diffyg tystiolaeth
Ar y pryd, roedd cryn feirniadaeth o'r penderfyniad i wahardd Khat gyda'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn gwrthwynebu unrhyw waharddiad.
Mewn adroddiad yn 2013 dywedodd y Cyngor ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) nad oedd digon o dystiolaeth bod y cyffur yn achosi problemau iechyd na phroblemau cymdeithasol.
Ond penderfynodd Mrs May i barhau gyda'r gwaharddiad gan ddweud nad oedd y peryglon o ddefnyddio'r cyffur wedi eu gwerthfawrogi'n llawn.
Y llynedd, dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Somaliaidd yng Nghymru gall y penderfyniad i wahardd y Khat arwain at griminaleiddio pobl sydd ddim yn haeddu hynny.
Mae cynhwysion cemegol Khat, cathinone a cathine, eisoes yn anghyfreithlon yn eu hawl eu hunain, gyda'r ddau yn gyffuriau Dosbarth B ers 2010.
Yn ôl Cronfa Ddata Cenedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau, ers 2009 mae chwech o bobl yng Nghymru wedi eu cyfeirio am driniaeth cyffuriau yn ymwneud a chamddefnydd Khat.
Straeon perthnasol
- 4 Gorffennaf 2013