Morgannwg yn batio'n wych

Jacques Rudolph Image copyright Empics
Image caption Sgoriodd Jacques Rudolph 139

Fe gafwyd ymateb gwych gan Forgannwg i gyfanswm Sir Gaerloyw o 391 ar drydydd diwrnod y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Llwyddodd Jacques Rudolph i gyrraedd 139 ac fe ddaeth cyfraniad o 123 gan Ben Wright wrth i'r ymwelwyr orffen y diwrnod ar 569 am saith wiced.

Mae llygedyn o obaith y daw buddugoliaeth i Forgannwg. Os fedran nhw osod nod heriol i Gaerloyw ddydd Mawrth a'u bowlio nhw allan mewn pryd, fe allai ddod ag ail fuddugoliaeth yn olynnol yn y bencampwriaeth.

Ond gydag amser yn brin, gêm gyfartal yw'r canlyniad mwyaf tebygol o hyd.

Sir Gaerloyw v. Morgannwg - diwedd y trydydd diwrnod :-

Sir Gaerloyw (batiad cyntaf) - 391

Morgannwg (batiad cyntaf) - 569 am 7 - Rudolph 139, Wright 123.

Straeon perthnasol